Ysbryd y mynydd


Ac mae'r galwad yn tori ar draws amsar
Ac mae'r teimlad yn galw ar draws y gwynt
I'r galon yma y mae yn dod
Dowch, dowch
Fel y mae i fod
Fel yr oedd yng nghynt

Yn ein amser yma
Yn ein amser hyn
Lle mae'r syndod yn dilin
I ddilin y syn

Tyrd, tyrd, tyrd
Tyrd gyda mi
Gydar lli
Tyrd ar y blaen
Tyrd yn y diwedd
Tyrd gyda mi

Fe ddo'i gyda chdi
Fe ddo'n ni gyda hi
i gyd yn y lli
Y'chi mynd i ddownsio
Downsio gyda
Downsio gyda ni?

Y'chi yn clywed?
Yr afon ty cefn
Yr afon ty draw
A oes rhiwin yn clywed?
Yr afon yn ein ysbryd
Yr afon yn ein llaw

Nid oes gofyn bywyd moethus arnaf
Ond mae gofyn
Gofyn
Fe ddaw

Wrth rhoid
Wrth gymeryd
Rwy'n sefyll
Ar foment
Ar deimlad
Ar le
Ei chware
Wrth ochor yr afon
Yn y lli

Gwranda arnaf
Y fi yw y sain
Edrycha arnaf
Y fi yw ei ras
Tyrd dawns gydaf
Y fi yw y lle
Tyrd gydaf
Y fi yw y blas
Fe ddaw o
Fe ddaw o
Fe ddaw
Tyrd yn dy flaen

Hei chdi!
W'ti
Eisiau mwy
na craig y maen?

Fe gei weld o
Fe gei weld o
Fe gei weld
Mae i weld ei fod
Yw
Trysor mwya byw
Trysor mwya byw
Trysor mwya byw
Trysor mwya byw
Trysor
Trysor mwya byw





 

Text Copyright 2005 © <Author>Kings</Author> | All Rights Reserved

WebMaster | E-mail | Legal | Credits